FFAIR ANRHEGION LLANDUDNO 2025
GWESTY’R ST GEORGE, Y PROMENÂD,
LLANDUDNO, CONWY, LL30 2LG
DYDDIAD: 12fed, 13eg, 14eg IONAWR 2025
Plant
Rydym yn mynnu bod plant yn cael eu goruchwylio bob
amser. Os ydych yn dod â phlant i'r sioe, rhoddir
bathodyn iddynt ar ôl cyrraedd. Peidiwch â chofrestru
plant i ddod.
Canfasu
Nid ydym yn cydoddef canfasu yn y sioe gan fusnesau
sydd ddim yn arddangos. Rhowch wybod i ni a byddwn
yn siarad ag unrhyw gwmnïau sy'n gweithredu eu
gwerthiant yn y modd yma. Gofynnir i unrhyw ymwelydd
y canfyddir eu bod yn canfasio adael y sioe.
Bwcio Lle
I archebu'ch stondin, cysylltwch â Steve Valentine ar
01678 521280 (ffatri) neu 07717 230020 (yn
uniongyrchol).
Prisiau
Cost £------- y metr sgwar.
Gofod y Stondin
Gwerthir gofod stand fel ‘SAFLE YN UNIG’. Mae hyn yn
golygu na ddarperir unrhyw ‘gynllun cregyn’. Bydd yn
rhaid i bob arddangoswr ddarparu “ffitiadau annibynnol”
i gyd-fynd â'r lle a ddyrannwyd. Os mae eich stondin
mewn eil yn y canol, efallai bydd arddangoswr arall yn
cefnu eich stondin. Efallai byddwch am ystyried hyn wrth
osod / dylunio eich stondin.
Byrddau a Chadeiriau
Bydd byrddau a chadeiriau ar gael yn rhad ac am ddim i’r
arddangoswyr fydd eu hangen ar dermau cyntaf i’r felin.
Pwer
Mae nifer cyfyngedig o socedi wal yn Ystafell Menai ac
Ystafell Wedgewood. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i
rai arddangoswyr rannu pwer trwy dennyn estyniadau.
Ni chaniateir tegellau na peiriannau te/coffi.
Gwnewch siŵr eich bod yn dod â gwifrau estynedig a
allai fod yn ofynnol.
Goleuadau
Os ydech chi’n dod â goleuadau eich hun yna gwnewch
siwr mai’r math ‘LED’ ydynt. PWYSIG: Ni chaniateir
goleuadau halogen. Bydd y gwesty yn gwirio bod yr holl
oleuadau, socedi estyniad a phlygiau wedi cael eu profi
‘PAT’, felly gwnewch yn siwr bod y labeli priodol arnynt.
Llety
Mae Gwesty’r St George yn gallu cynnig amodau llety
arbennig i’r arddangoswyr. Cysylltwch a’r gwesty yn
uniongyrchol trwy galw 01492 877 544.
Sefydlu Stondin
Rydym wedi trefnu bod y gwaith sefydlu yn digwydd ar y
diwrnodau canlynol: dydd Gwener 10fed a dydd
Sadwrn 11fed o Ionawr o 9.00y.b. tan 6.00y.h. Mae’n
rhaid cwblhau pob stondin erbyn 9.00y.b. bore agoriadol
y sioe. Ni chaniateir unrhyw arddangoswr unwaith mae’r
sioe ar agor. Yn yr un modd ag unrhyw sioe fasnach
arall, cyfrifoldeb yr arddangoswr yw gosod a tynnu eu
stondin o fewn yr amserlen a roddwyd. Os bydd angen
cymorth arnoch chi, eich cyfrifoldeb chi yw trefnu
cymorth digonol.
Sioe Agor
12fed, 13eg, 14eg o Ionawr, 2025.
Tynnu Lawr y Stondin
Bydd tynnu lawr y stondinau yn digwydd dydd Mawrth
o 4.00y.h. tan 6.00y.h. Efallai bydd unrhyw un sy’n or-
redeg yr amseroedd hyn yn gorfod talu taliadau i'r
gwesty oherwydd efallai bod y digwyddiad nesaf yn aros
i ddechrau. Mae tynnu lawr yn dechrau am 4.00y.h. ar
ddiwrnod olaf y sioe. Ni ddylai unrhyw dorri lawr
ddechrau cyn cau'r sioe yn swyddogol.
Llandudno Gift Fair © 2024
Website designed and maintained by H G Web Designs